Dydd Mercher 7 Mai am 19.30 yn Ysgoldy, Eglwys Crist (New School Rooms)
Tocynnau £5 o Swyddfa Tocynnau’r Wyl.
Bydd Gethin Russell-Jones, awdur, seicotherapydd, newyddiadurwr a gweinidog gydag Eglwys y Bedyddwyr, yn siarad am My Secret Life in Hut Six, llyfr a gyhoeddodd ar y cyd â’i fam, Mair Russell-Jones. Mae’r llyfr yn adrodd hanes ei fam yn gweithio ym Mharc Bletchley yn ystod yr Ail Ryfel Byd.